SL(5)018 – Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2016

Cefndir a Phwrpas

Caiff person sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio (a rhai materion cysylltiedig) apelio i Weinidogion Cymru os nad yw’r awdurdod cynllunio yn penderfynu ar y cais o fewn cyfnod a ragnodir.

Wyth wythnos yw’r cyfnod oni bai y caiff ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad.  Os caiff cais ei ddiwygio cyn i’r awdurdod wneud penderfyniad, y cyfnod oedd un ai pedair wythnos o’r dyddiad y daeth y diwygiad i law'r awdurdod neu 12 wythnos o’r dyddiad y cafwyd y cais gwreiddiol, pa un bynnag oedd hiraf.

Cynyddodd Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 (“Rheoliadau 2016”) y cyfnod  ar gyfer penderfynu ar gais o wyth wythnos i 16 wythnos pan fo cais yn ymwneud â datblygiad angen Asesiad Effaith Amgylcheddol (“AEA”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiad canlyniadol i reoliad 57(2) o Reoliadau 2016.  Newidir y cyfnod y caniateir apelio ar ei ôl os caiff cais lle mae AEA yn ofynnol ei ddiwygio, ond na wneir penderfyniad yn ei gylch.  Mae’r cyfnod hwnnw yn dod yn bedair wythnos o’r dyddiad y daeth y diwygiad i law’r awdurdod neu 20 wythnos o’r dyddiad y daeth y cais sydd angen AEA i law, pa bynnag un sydd hiraf.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd y pwynt canlynol  i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Gan fod y Rheoliadau wedi’u gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd, roedd gan y Llywodraeth ddewis o’r weithdrefn i’w defnyddio.  Dewiswyd y weithdrefn negyddol am y rhesymau a nodir ym mharagraffau 2.1-2.2 o’r Memorandwm Esboniadol.  Gan mai diwygiad canlyniadol sydd yma, credir bod y dewis yn briodol.  [Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod yn codi mater polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.]

 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Hydref 2016